Casgliadau Celf Arlein

cwpan a soser, plât

Dyddiad: 1934

Cyfrwng: tsieni asgwrn

Maint: h(cm) : 6 (cup) x l(cm) : 12 x w(cm) : 10,h(cm) :

Derbyniwyd: 1997; Prynwyd

Rhif Derbynoli: NMW A 33006-7

‘Rhosyn Gwyn’ yw enw’r patrwm hwn ac mae’n un o naw patrwm y gwyddom i Sutherland eu cynhyrchu ar gyfer project Modern Art for the Table, a’r arddangosfa ddylanwadol yn Harrods ym 1934. Roedd y project yn ymgais i wella safon dylunio cerameg Prydain drwy gyflogi artistiaid cyfoes. Dan arweiniad Thomas Acland Fennemore, Cyfarwyddwr Celf E Brain & Company (Tsieni Foley), ynghyd â Sutherland ei hun a’r dylunydd Milner Gray, gwahoddwyd un ar ddeg o artistiaid blaenllaw’r cyfnod i ddylunio patrymau i’w cynhyrchu mewn tsieni asgwrn gan Foley a phriddwaith gan Wilkinson. Ymhlith yr artistiaid a wahoddwyd roedd Laura Knight, Paul Nash, Ben Nicholson a Frank Brangwyn.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd