Casgliadau Celf Arlein
Dyddiad: 1774-1775
Cyfrwng: derw, pinwydden,
Maint: h(cm) : 411.4 case x l(cm) : 323 x d(cm) : 104.8
Derbyniwyd: 1995
Rhif Derbynoli: NMW A 51193
Gwnaed yr organ hon ar gyfer ystafell gerdd Syr Watkin Williams-Wynn yn ei dŷ ar Sgwâr St James. Dyluniwyd y casyn ym 1773 gan Robert Adam ac fe’i cynhyrchwyd gan y cerfiwr Robert Ansell. Nifer fechan o gasys organ mawreddog tebyg a ddyluniodd Adam a dyma’r unig un a oroesodd. Yn goron ar y gwaith mae portread o Handel, hoff gyfansoddwr Syr Watkin. Mae’r ffigurau plastr maint llawn yn cynrychioli Terpsichore, awen dawns a chân yn dal lyra, ac Euterpe, awen telyneg a cherddoriaeth yn dal ffliwt. Cynhyrchwyd yr organ am £250 gan John Snetzler, prif adeiladwr organau’r cyfnod. Gwnaed newidiadau ym 1783, cyn ei hailadeiladu a’i ehangu ym 1864, pan y cafodd ei symud i Wynnstay, cartref Williams-Wynn ger Wrecsam. Ychwanegwyd y lliw glas hefyd ym 1864, a hynny at y gwyrdd, gwyn a phorffor gwreiddiol.