Casgliadau Celf Arlein
Dyddiad: 1903 ca
Cyfrwng: ,
Maint: h(cm) : 28.9 x w(cm) : 15.5 x diam(cm) : 15.1,h(cm
Derbyniwyd: 2002; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 36250
Mae patrwm geometrig haniaethol y jwg hwn yn nodweddiadol o arddull jugendstil, arddull o’r Almaen sy’n gyfystyr ag Art Nouveau. Mae’n bosibl i’r jwg gael ei gynhyrchu drwy gael ei daflu mewn mowld oedd â’r patrwm wedi’i gerfio iddo. Efallai bod caead piwter ganddo’n wreiddiol. Ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd crochendy Gerz yn un o nifer yn rhanbarth Westerwald oedd yn cynhyrchu crochenwaith caled yn arddull Dadeni’r Almaen, ond daeth yn amlwg yn Arddangosfa Ganmlwyddiant Paris ym 1900 bod eu cynnyrch yn hen ffasiwn. Dyma nhw felly’n cyflogi’r pensaer-ddylunydd avant-garde blaenllaw Peter Behrens (1868-1940) i ddylunio crochenwaith â fflach newydd, cyffrous. Yn ogystal â cherameg dyluniodd Behrens waith metel, offer trydanol a graffeg.
sylw - (1)