Casgliadau Celf Arlein
Dawnswraig yn edrych ar Wadn ei Throed Dde
DEGAS, Edgar (1834 - 1917)
Cyfrwng: efydd
Maint: 45.7 cm
Derbyniwyd: 1952; Cymynrodd; Gwendoline Davies
Rhif Derbynoli: NMW A 2458
Casgliad: Casgliad y Chwiorydd Davies
Modelodd Degas nifer o ffigyrau, a hynny fel archwiliad annibynnol ar ffurf yn hytrach na cham rhagarweiniol wrth gynhyrchu cerflun gorffenedig. Ym 1919-21 cafodd cyfresi efydd o saith deg tri o ffigyrau a ddarganfuwyd yn ei stiwdio eu cynhyrchu gan ffowndri Hébrard. Cafodd y ffigwr hwn ei fodelu'n wreiddiol tua 1890, ac mae'n adlewyrchu sylwadaeth uniongyrchol a gwybodaeth am gerfluniaeth Glasurol. Prynodd Gwendoline Davies y cast hwn ym 1923.
sylw - (1)