Casgliadau Celf Arlein
Fête Champêtre
DIAZ, Narcisse Virgilio (1809 - 1876)
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 24.0 x 32.4 cm
Derbyniwyd: 1963; Cymynrodd; Margaret Davies
Rhif Derbynoli: NMW A 2460
Casgliad: Casgliad y Chwiorydd Davies
Mae’r lleoliad coediog hwn, sy’n edrych o’r coed tua’r machlud, yn nodweddiadol o dirluniau Diaz o Goedwig Fontainebleau, i’r de-ddwyrain o Baris. Er mai Realydd ydoedd yn y bôn, roedd hefyd yn ymwybodol o’r angen i blesio’r chwaeth boblogaidd. Yma, mae’r ffynnon ddwˆr a’r ffigyrau dychmygol yn dilyn traddodiad fête champêtre (parti gwledig) y ddeunawfed ganrif.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.