Casgliadau Celf Arlein
Y Deponiad
DIEPENBECK, Abraham van (1596 - 1676)
Cyfrwng: olew ar fwrdd
Maint: 44.1 x 33.7 cm
Derbyniwyd: 1963; Cymynrodd; Margaret Davies
Rhif Derbynoli: NMW A 33
Casgliad: Casgliad y Chwiorydd Davies
Mae corff marw Crist yn cael ei lusgo o’r groes, wedi’i boenydio a’i ddiosg o bob urddas. Mae ei fam yn estyn allan iddo’n llawn gwewyr tra bo Mair Magdalen yn cofleidio’i draed. Mae i’r braslun olew emosiwn dwys a phrysurdeb egnïol sy’n nodweddu peintiadau Baróc. Ganed Diepenbeck yn 's-Hertogenbosch a symudodd i Antwerp tua 1623. Cafodd Rubens, ei athro, ddylanwad mawr ar Diepenbeck, a byddai’n aml yn defnyddio’i fotiffau yn ei waith. Yma mae e wedi peintio yn arddull grisaille, sef arddull fonocromatig boblogaidd a ddefnyddiwyd yn aml i efelychu cerfluniau.
sylw - (1)