Casgliadau Celf Arlein
Tywysoges Ddiweddar yn personoli Heddwch yn coroni Gogoniant Lloegr yn adlewyrchu ar Ewrop [A Late Princess personifying Peace crowning the Glory of England reflected on Europe]
DOWNMAN, John (1750 - 1824)
Dyddiad: 1819
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 197.6 x 222.1 cm
Derbyniwyd: 1997; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 3591
Ganed Downman yn Rhiwabon a bu'n astudio yn Llundain gyda Benjamin West. Arbenigai mewn portreadau cain a golygfeydd theatraidd. Yr alegori hon, hyd y gwyddom, yw ei waith olaf. Roedd yn eiddo i Syr Watkin Williams-Wynn (1772-1840), y 5ed barwnig, a bu'n crogi yn Wynnstay. Fe'i gwelwyd yn Academi Frenhinol 1819 gyda'r gerdd isod:
Hail, lovely peace! In glory spread thy arms...To crown blest Britain in triumphant charms. Europe's encircled Sov'reigns join thy ways...
Y 'ddiweddar Dywysoges' yw Charlotte Augusta (1796-1817), merch Siôr IV, Tywysog Cymru. Bu farw ar enedigaeth plentyn ac ystyriwyd hynny'n drychineb genedlaethol. Darlunir hi ar ffurf Heddwch adeiniog a Lloegr ar ei gorsedd. Mae'r troffi arfau'n cyfeirio at y ffaith fod Napoleon wedi ei drechu ac mae'r pwto a'r goron yn gyfeiriad at 'Europe's encircled Sov'reigns' a adferwyd i'r orsedd pan orchfygwyd ef. Symbolau o Loegr yw'r llew a'r ungorn, y gardas a chleddyf y wladwriaeth, ac mae'r pwti gyda cholomen a chorn llawnder yn gweini ar Heddwch.