Casgliadau Celf Arlein

Syr Watkin Williams-Wynn (1749-1789), Thomas Apperley (1734-1819) a'r Capten Edward Hamilton [Sir Watkin Williams-Wynn (1749-1789), Thomas Apperley (1734-1819) and Captain Edward Hamilton]

BATONI, Pompeo (1707 - 1787)

Dyddiad: 1768-72

Cyfrwng: olew ar gynfas

Maint: 289.0 x 196.0 cm

Derbyniwyd: 1947; Prynwyd

Rhif Derbynoli: NMW A 78

Casgliad: Casgliad Syr Watkin Williams-Wynn

Dechreuodd Syr Watkin Williams-Wynn ar ei Daith Fawr ym mis Mehefin 1768. Gydag ef yr oedd Edward Hamilton, swyddog yn y fyddin a cherddor amatur, a Thomas Apperley o Blas Grono, ger Wrecsam, ei 'athro' a fu gydag ef yn Rhydychen. Ar ôl bod ym Mharis a Fflorens, symudodd y criw i Rufain ym mis Tachwedd, ac yno archebodd Syr Watkin Williams-Wynn beintiadau hanes gan Anton Raphael Mengs a Pompei Batoni. Comisiynodd hefyd y portread hwn gan Batoni, sef peintiwr enwocaf y ddinas. Byddai ei waith yn cael ei edmygu'n arbennig gan enwogion o Brydain, a hwn yw ei bortread gorau o'r 'Daith Fawr'. Mae Syr Watkin yn sefyll ar y chwith â chreon yn ei law a chopi o ffresgo gan Raphael. Wrth y bwrdd mae Apperley yn tynnu sylw ei noddwr at ddarn o Ddwyfol Gân Dante. Mae Hamilton yn dal ffliwt ac yn pwyntio'n edmygus at yr arwyddion o ddysg llenyddol Apperley. Mae cerflun damhegol o Peintio yn y gilfan y tu ôl iddynt yn pwysleisio hoffter y tri dyn at y celfyddydau. O Rufain aeth Syr Watkin Williams-Wynn i Napoli cyn ddychwelyd adref drwy Fenis ym mis Chwefror 1769. Yn ystod ei oes byddai'r darlun hwn yn crogi yn Wynn House, ei gartref yn Sgwâr St. James yn Llundain.

sylw (4)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Jennifer Dudley Staff Amgueddfa Cymru
14 Ebrill 2022, 14:07

Hi Jackie,

I can confirm that this painting remains on permanent display in Gallery 4 at National Museum Cardiff. I hope you will enjoy your visit to see it.

With best wishes,
Jennifer Dudley
Curator: Art Collections Management and Access

Jackie Rainbow nee Apperley
9 Ebrill 2022, 13:30
Can you confirm this painting is still on view. Thomas Apperley is one of my grandfathers and I plan to visit to view it.
Marc Haynes Staff Amgueddfa Cymru
5 Tachwedd 2019, 13:54

Dear Mike Toozer,

Thank you very much for your interest in this painting; you're more than welcome to come and see it on display in Gallery 4 at National Museum Cardiff. It's the only work by Batoni in our collections, but we have a large number of works connected to the patron Sir Watkin Williams-Wynn in the same gallery.

Best wishes,

Marc
Digital Team

Mike Toozer
4 Tachwedd 2019, 21:50
Is this painting by Pompeo Batoni on display in the National Museum of Wales please and are there other portraits by this artist on display there?
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd