Casgliadau Celf Arlein

Icarus

GILBERT, Sir Alfred (1854 - 1934)

Icarus

Sir Alfred Gilbert (1854 - 1934)

Dyddiad: 1884

Cyfrwng: efydd

Maint: 100.0 cm

Derbyniwyd: 1938; Rhodd; Syr William Goscombe John

Rhif Derbynoli: NMW A 116

Comisynwyd gwaith efydd Gilbert ym 1882 gan Frederic Leighton (yr Arglwydd Leighton wedi hynny), a gadawyd i'r cerflunydd ddewis ei bwnc. Dewisodd Icarws, mab chwedlonol y dyfeiswr Groegaidd, Daedalws. Rhoes ei dad adenydd a phlu o gwyr iddo, ond hedfanodd Icarws yn rhy agos i'r haul gan syrthio i'r ddaear ar ôl i'r cwyr doddi. Mae hwn yn dangos dylanwad amlwg Donatello ac mae'n un o weithiau efydd harddaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Cydnabyddwyd safon eithriadol o uchel y gwaith gan yr Academi Frenhinol ym 1884 a bu'n gyfrwng i sefydlu Gilbert fel cerflunydd mwyaf dylanwadol ei genhedlaeth. Defnyddiwyd Icarws yn aml i ymgorffori peryglon uchelgais yr ifainc ac ystyriai Gilbert fod y gwaith efydd yn fath o hunan bortread seicolegol. Mae hwn yn ddarn unigryw a gafodd ei gastio yn Napoli. Dywedai Gilbert mai hwn oedd ei hoff waith.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd