Casgliadau Celf Arlein
Thomas Assheton-Smith (1752-1828)
BEECHEY, Sir William (1735 - 1839)

Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 138.1 x 106.5 cm
Derbyniwyd: 1985; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 474
Ymhlith noddwyr dylanwadol Beechey roedd Siôr III a Siôr IV. Ym mis Mehefin 1826 talwyd £157.10.0 iddo am y portread hwn, wedi ei gomisiynu gan Gorfforaeth Caernarfon ar gyfer eu Hystafell Reithgor. Gwelir ei lofnod ar y llythyr wrth ymyl y gwrthrych. Thomas Assheton Smith (1752-1828) oedd tirfeddiannwr y Faenol, Bangor. Roedd yn Uchel Siryf Sir Gaernarfon ym 1783-1784 ac yn AS dros y sir ym 1774-80. O 1809 datblygodd y chwareli llechi ar ei ystadau, ac ym 1826 cyflogai 800 o chwarelwyr a gynhyrchai 20,000 tunell o lechi.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.