Casgliadau Celf Arlein
Merch ifanc o'r Teulu Gradenigo gyda Cholomen
GUARDI, Francesco (1712 - 1793)
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 149.5 x 98.7 cm
Derbyniwyd: 1984; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 77
Roedd Guardi yn dod o deulu o beintwyr yn Fenis ac mae'n fwyaf adnabyddus am ei olygfeydd o'r ddinas honno. Mae'n debyg fod y portread hwn yn perthyn i'r cyfnod 1768-70 ac yn wreiddiol byddai mewn pâr gyda phortread maint llawn o fachgen, hefyd gyda cholomen ar linyn. Mae'r naill a'r llall yn portreadu plant y bonheddwr Jacopo Gradenigo o Fenis.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.