Casgliadau Celf Arlein
Gweddillion Palas Philippe le Bel [The Remains of the Palace of Philippe le Bel]
HOLLAND, James (1799 - 1870)
Dyddiad: 1835
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 54.9 x 34.8 cm
Derbyniwyd: 1898; Cymynrodd; James Pyke Thompson
Rhif Derbynoli: NMW A 470
Arbenigai Holland ar bynciau pensaerniol a bu ar nifer o deithiau braslunio i'r Cyfandir. Mae'n debyg fod y llun hwn yn union yr un fath â darlun a ddangoswyd yn y Sefydliad Prydeinig ym 1835. Phillip IV, neu 'Phillip Hardd' (1268-1314), oedd Brenin Ffrainc a ddiddymodd y Temlwyr, cipio'r Pab Boniface VIII a dechrau llinach Babyddol Avignon. Mae'r tŵr grisiau addurnedig yn y darlun hwn lawer yn ddiweddarach na Phillip IV, gan mai diwedd y bymthegfed ganrif yw'r arddull.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.