Casgliadau Celf Arlein
Dorelia McNeil mewn Het â Phlu [Dorelia McNeil in a Feathered Hat]
JOHN, Augustus (1878 - 1961)
(Nid oes modd darparu delwedd o'r gwaith celf hwn ar hyn o bryd. Mae hyn naill ai oherwydd cyfyngiadau hawlfraint, neu oherwydd bod y ddelwedd yn aros i gael ei digideiddio. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir gan hyn.)
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 53.3 x 43.2 cm
Derbyniwyd: 1940; Rhodd; Gwendoline Davies
Rhif Derbynoli: NMW A 167
Casgliad: Casgliad y Chwiorydd Davies
Cyfarfu John â Dorelia ym 1903, drwy ei chwaer Gwen mae'n debyg. Bu'r ddwy ar wyliau'n cerdded yn Ffrainc ym 1903-04. Ar ôl marw Ida bu Dorelia'n byw gyda'r arlunydd fel ei wraig a hi oedd y fodel a ddefnyddiai amlaf. Cafodd ei pheintio'n gyson dros gyfnod o drigain mlynedd bron. Mae'r portread cynnar hwn yn dyddio o 1903-1904.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.