Casgliadau Celf Arlein
Pen Dorelia McNeil (1881-1969) [Head of Dorelia McNeil (1881-1969)]
JOHN, Augustus (1878 - 1961)

Cyfrwng: olew ar bren haenog
Maint: 40.1 x 33.3 cm
Derbyniwyd: 1952; Cymynrodd; Gwendoline Davies
Rhif Derbynoli: NMW A 162
Casgliad: Casgliad y Chwiorydd Davies
Prynwyd gan Gwendoline Davies ym 1916 ynghyd â'r Hunan-bortread. Mae'n debyg y lluniwyd y gwaith hwn yn Chelsea ym 1911. Cyfarfu John ô Dorelia McNeill ym 1903 am y tro cyntaf trwy ei chwaer Gwen John. Mae'r gwaith hwn yn astudiaeth hynod o ffres a dynnwyd mewn pensel yn syth ar gefndir o bren haenog heb ei baratoi. Mae'r cefndir glas a'r ffrog o borffor golau wedi eu llenwi yn gyflym ac mae lliwiau'r croen a'r gwallt wedi eu hychwanegu cyn i'r lliw cyntaf sychu. Panel bychan John A Girl in Purple, a oedd hefyd yn darlunio Dorelia, oedd y gwaith mwyaf blaengar yn An Exhibition of Works by Certain Modern Artists of Welsh Birth or Extraction yng Nghaerdydd ym 1913-14.
sylw - (4)
David Tovey
www.stivesart.info
Hi Bernadette,
The painting is on display in gallery 15 at National Museum Cardiff. Find out more about how to visit here: Plan your visit
Sara
Digital Team
Hi Bernadette,
Thanks you for your enquiry, I will pass it on to a colleague in the art department.
Sara
Digital Team
Thank you again for any help you can offer.