Casgliadau Celf Arlein
Blodau a Sidan: Symffoni Las [Flowers and Silk: Blue Symphony]
BOMBERG, David (1890 - 1957)
(Nid oes modd darparu delwedd o'r gwaith celf hwn ar hyn o bryd. Mae hyn naill ai oherwydd cyfyngiadau hawlfraint, neu oherwydd bod y ddelwedd yn aros i gael ei digideiddio. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir gan hyn.)
Dyddiad: 1947
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 97.2 x 76.1 cm
Derbyniwyd: 1969; Prynwyd; gyda chefnogaeth Cronfa Knapping
Rhif Derbynoli: NMW A 224
Cafodd Bomberg ei hyfforddi yn Ysgol Slade ac ar y cychwyn byddai'n cyfeillachu â'r Grw^p 'Vorticist'. Yn ystod y 1920au datblygodd arddull fwy naturiolaidd a mynegiannol. Mewn cyfnod o iselder ysbryd yn ystod y 1940au anogodd ei wraig ef i beintio blodau. Rheiny'n fwyfwy lliwgar, ac yma mae'r llestr blodau wedi diflannu mewn ffrwydriad haniaethol o liw. Ychydig lwyddiant a gafodd Bomberg, ond yr oedd yn athro dylanwadol ac erbyn hyn caiff ei gydnabod yn ffigwr o bwys mewn moderniaeth ym Mhrydain.
sylw - (1)
Thankyou DAVID WALLIS