Casgliadau Celf Arlein
Hunan-bortread
JOHN, Augustus (1878 - 1961)
Dyddiad: 1913
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 61.1 x 51.3 cm
Derbyniwyd: 1940; Rhodd; Gwendoline Davies
Rhif Derbynoli: NMW A 158
Casgliad: Casgliad y Chwiorydd Davies
Ag yntau'n ddylunydd cywrain ac yn lliwiwr gwych, roedd agwedd John at gelfyddyd fodern yn amwys. Roedd yn edmygu Cèzanne, Van Gogh a Gaugin, a chaseid y paneli olew a arddangoswyd ganddo yn Oriel Chenil, Chelsea, ym 1910, gan y rhai mwyaf traddodiadol. Fodd bynnag, gwrthododd John gael ei gynnwys yn yr Ail Arddangosfa Ôl-Argraffiadol yn Llundain ym 1912-13, er bod ganddo waith ym 1913 yn Sioe Armory yn Efrog Newydd, a oedd yn llawer mwy eang. Gwelwyd sawl un o'i weithiau hefyd yn An Exhibition of Works by Certain Modern Artists of Welsh Birth or Extraction, a drefnwyd gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru ym 1913-14.
sylw - (1)