Cyrsiau Crefft a Chyrsiau Creadigol
Dewch i ddysgu rhywbeth newydd
O grefftau traddodiadol i wyddoniaeth a diwydiant - mae ein cyrsiau wedi'u hysbrydoli gan wrthrychau a straeon o gasgliadau'r Amgueddfa. Mae ein saith amgueddfa, yn rhai o leoliadau mwyaf trawiadol Cymru, yn llefydd perffaith i droi eich llaw at rywbeth newydd.
Rhaid archebu tocynnau ymlaen llaw ar gyfer pob cwrs - cliciwch y dolenni am fanylion.
Creu Lliw Naturiol – Dysgwch sut i greu inc naturiol eich hun o blanhigion a choed
9 Mai 2026 Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru Wedi'i Ganslo
Lliwiau'r Ddaear – Dysgwch sut i greu paent eich hun o bigment naturiol
10 Mai 2026 Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
CREU Ffibrau: Printio Botaneg
20 Mehefin 2026 Amgueddfa Wlân Cymru
CREU Fibres: Lliwio naturiol gyda phlanhigion yr ardd
10 Hydref 2026 Amgueddfa Wlân Cymru