Deall ac Adfer
Trwy ymchwil wyddonol a rheoli tir cynaliadwy, ein nod yw cyfrannu at gyfrifoldeb byd-eang.
Ymchwil
A wyddoch chi bod gwyddonwyr yr Amgueddfa’n gwneud gwaith ymchwil pwysig ar gyfer y frwydr yn erbyn newid hinsawdd a dirywiad amgylcheddol? amgylcheddol?Casgliadau
Mae casgliadau cenedlaethol Amgueddfa Cymru, sy’n cynnwys dros 3 miliwn o sbesimenau, yn adnodd gwerthfawr ar gyfer deall newid hinsawdd.
Y Faner Werdd
Mae tair o’n gerddi wedi ennill gwobr y Faner Werdd.
Rhywogaethau a warchodir
Mae rhywogaethau a warchodir, gan gynnwys ystlumod a madfallod dwr cribog, yn byw yn nhiroedd Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.
Cychod gwenyn a’r ddôl drefol
A wyddoch chi bod staff yr Amgueddfa yn gofalu am dri chwch gwenyn ar do Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd? Ynghyd â’n dôl drefol, mae’n un o’r ffyrdd rydym yn cefnogi ac yn annog pryfed peillio a chynyddu bioamrywiaeth yn ein lleoliad trefol.