Ein Hôl Troed
Ein nod yw deall a lleihau ein hôl troed carbon a’n heffaith amgylcheddol ar draws ein safleoedd.
Cynllun Seren
Rydym wedi cyflawni cam 3 Cynllun Safon Seren BS8555, sy’n cydnabod rheoli amgylcheddol effeithiol.
Defnydd o drydan
Rydym wedi lleihau ein defnydd o drydan gan dros 50% yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd rhwng 2006 a 2018, ac roedd gostyngiad o 11.36% yn ein defnydd trydan yn 2019/20 ar draws yr amgueddfeydd cenedlaethol o gymharu â blynyddoedd blaenorol.
Hyfforddiant llythrennedd carbon
Rydym yn lansio cwrs hyfforddi arloesol i holl staff Amgueddfa Cymru i ddysgu am lythrennedd carbon, a sut all bob un ohonom chwarae rhan wrth ddiogelu ein hamgylchedd.
System Rheoli Adeiladau
Rydym wedi gosod System Rheoli Adeiladau awtomatig ym mhob amgueddfa i reoli amodau, gwella ein defnydd ynni ac amodau amgylcheddol.
Cyflenwyr caffi
Mae holl gyflenwyr caffi Amgueddfa Lechi Cymru wedi’u lleoli yng Nghymru, a gellir compostio 100% o’r cynwysyddion bwyd a diod i fynd.
Ein siopau
Mae llenwad y teganau meddal sydd ar werth yn ein siopau wedi’i wneud 100% o boteli dwr wedi’u hailgylchu, ac mae gennym ni deganau cynaliadwy yn hytrach na theganau plastig.
Yn ymrwymedig i leihau’r maint o blastig a ddefnyddiwn
Rydym wedi stopio defnyddio pacedi saws unigol yng nghaffi Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, gan arbed 83,000 o bacedi plastig y flwyddyn.
Datganiad o argyfwng hinsawdd
Yn 2019, fe wnaethom ymuno ag eraill i ddatgan argyfwng hinsawdd ac ecolegol byd-eang. Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ein hamgylchedd naturiol, gan ymgorffori cynaliadwyedd ym mhopeth a wnawn er mwyn diogelu natur ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.