Galluogi

Trwy addysg a rhaglennu ein nod yw annog eraill i gyfrannu at gynaliadwyedd.

Gweithdai mewn ysgolion

Yn 2020, cymerodd 7,299 o wyddonwyr ysgol a 342 o athrawon ar draws y DU ran ym mhroject Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion, yn archwilio newid hinsawdd, a chafodd 18,000 o fylbiau eu plannu.

Glanhau traeth

Rydym wedi bod yn rhan o’r Great British Beach Clean ar draeth Aberogwr am fwy na 15 mlynedd ar y cyd â’r Gymdeithas Cadwraeth Forol.

Gardd GRAFT

Mae gardd GRAFT yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn cynhyrchu bwyd ar gyfer amrywiaeth o brojectau cymunedol.

Arddangosfeydd

Mae cynaliadwyedd yn thema sy’n rhedeg drwy ein rhaglen arddangosfeydd – o rai sy’n ymdrin â chynaliadwyedd yn bennaf, e.e. Dippy ar Daith, arddangosfa yn 2019 yn edrych ar Ffasiwn Brys, i rai sy’n hyrwyddo harddwch byd natur o’n cwmpas, fel Mwydod! Y Da, y Drwg a’r Hyll.