Hanner Canrif o Hanes
Yn mis Mai 2022 mae Amgueddfa Lechi Cymru yn dathlu ei phenblwydd yn 50 oed!
Sut daeth yr amgueddfa hon i fod?
Roedd Chwarel Dinorwig wedi cau yn ddirybudd yn Awst 1969 ac roedd popeth oedd ynghlwm â’r gwaith i fynd ar werth. Roedd gweld popeth wedi ei rifo – yr injans, y peiriannau, hyd yn oed y pot pi-pi - yn loes calon i Hugh Richard Jones, Prif Beiriannydd y chwarel.
‘…beth oedd yn nychryn i fwya oedd…gweld nhw i fyny ar yr olwyn fawr. O nw’n mynd i losgi honno, fel scrap. Mi ges i gyfle i stopio nhw neud hynny, a siarad efo’r ocsiwniar a’r derbynnydd, ac fe neuthon nhw gau’r cwbwl i fyny a gyrru’r ‘vultures’ o na i gyd.’
Yn dilyn, bu cyfnod prysur o drafod a llythyru rhwng unigolion brwdfrydig, sefydliadau cenedlaethol, y cyngor sir a’r Swyddfa Gymreig. Penderfynwyd y byddai’r cyngor yn prynu’r adeiladau, yr Adran Amgylchedd yn edrych ar ei ôl a’r Amgueddfa Genedlaethol yn datblygu’r lle fel amgueddfa.
Roedd gweithred un dyn yn yr achos yma yn dyngedfennol – Hugh Richard Jones yn stopio’r ocsiwn cyn i bopeth gael ei werthu.
‘Dydan ni ddim am altro’r lle, na’i beintio fo. Rydan ni’n awyddus iawn i gadw’r lle fel ag yr oedd o..’
Wrth ddatblygu’n amgueddfa, roedd yna awydd i gadw cymeriad a naws yr hen weithdai ac mae hynny’n hollbwysig hyd heddiw.
Agorwyd yr Amgueddfa ar 25ain Mai 1972. Nid cragen o adeilad yn llawn atgofion o’r gorffennol mo’r Amgueddfa Lechi. Fel y gwelwch o’r holl luniau, mae wedi bod yn le llawn bwrlwm dros yr hanner canrif! Bob blwyddyn, mae miloedd o bobl o bob oed, o bob cwr o’r byd, yn cael cyfle i ryfeddu at grefft ein chwarelwyr a’n gofaint, yn mwynhau hel atgofion yn Fron Haul ac yn cael eu hysbrydoli gan ddyfeisgarwch a dycnwch ein cyndeidiau.
Mae’r adeilad wedi atseinio i synnau bandiau a chorau ac wedi bod yn leoliad ar gyfer dramâu a ffilmiau. Mae gweithdai i ysgolion wedi bod yn rhan o’n cynnig o’r cychwyn, ond bellach mae plant Cymru a thu hwnt yn cael ymweld â ni o bell drwy weithdai rhithwir.
A ninnau bellach yn rhan o Safle Treftadaeth Byd UNESCO, a chynlluniau ar droed i ddatblygu’r Amgueddfa ymhellach tybed be fydd ein hanes yn yr hanner canrif nesaf?
Ffotograffau o'r Degawdau
Dathlu'r Deugain
Dyma gylchgrawn a gynhyrchywd ar gyfer penblwydd yr amgueddfa yn 40 oed. Mae’n cynnwys cyfweliadau gyda unigolion fu’n gysylltiedig a’r safle a cyn staff a staff presenol am eu gwaith. Yn wreiddiol dim ond mewn fersiwn wedi argraffu, roedd y penblwydd yn 50 oed yn gyfle da i’w roi allan yn ddigidol er mwyn i bawb ei fwynhau.