Gwirfoddoli Grŵp


Mae Gwirfoddoli Grŵp yn ffordd wych o helpu eich cymuned leol tra’n annog eich grŵp i weithio fel tîm.

Yn y gorffennol, mae staff banciau, y gwasanaeth sifil ac elusennau a chlybiau lleol wedi gwirfoddoli gydag Amgueddfa Cymru. Maen nhw wedi ein helpu ni gyda phrojectau mawr fel garddio, gwaith fferm a threfnu deunydd archif hyd yn oed.

Ers 1907 rydyn ni wedi bod yn geidwaid treftadaeth a chasgliadau celf a hanes natur Cymru, ac rydyn ni’n credu y gall amgueddfeydd newid bywydau. Rydyn ni’n ddibynnol ar gefnogaeth unigolion, busnesau a sefydliadau elusennol i feithrin treftadaeth Cymru.

Gallwn gynnig sesiynau gwirfoddoli grŵp yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru neu yn Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru.

Mwy o wybodaeth?

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Ffurflen Ymholiad Gwirfoddoli Grŵp

Eisiau mynd amdani?

Llenwch Ffurflen Ymholiad Gwirfoddoli Grŵp a’i hanfon at gwirfoddoli@amgueddfacymru.ac.uk

Rhowch o leiaf 8 wythnos o rybudd i drefnu gwirfoddoli.

Allwn ni ddim gwarantu y bydd cyfle i bawb wirfoddoli, ond fe wnawn ein gorau.

Cysylltwch â ni os oes gennych gwestiynau.