Cwestiynau cyffredin

Ar gyfer pwy mae Bloedd?

Os ydych chi'n 16–25 oed ac yn byw yng Nghymru, neu’n dod o Gymru ond yn byw yn rhywle arall, gallwch chi gofrestru gyda Bloedd!

Beth mae Bloedd yn ei olygu??

Ystyr bloedd yw gweiddi. Rydyn ni am roi llais a llwyfan i bawb, a defnyddio ein profiadau fel pobl ifanc i herio a mynegi barn yn yr Amgueddfa.

Pam ddylwn i ymuno â Bloedd?

Os oes gennych chi ddiddordeb yn y celfyddydau, diwylliant, hunaniaeth, gwyddoniaeth a hanes, bydd digon o gyfle i chi ehangu’r diddordebau hyn drwy Bloedd. Mae Bloedd yn ffordd wych o gwrdd â chyfoedion o bob cwr o Gymru a chydweithio â nhw. Ymunwch â Bloedd os ydych chi am ddatblygu projectau neu ddysgu sgiliau newydd, neu os nad ydych chi erioed wedi profi'r Amgueddfa mewn ffordd sydd wedi'i theilwra'n arbennig ar gyfer pobl ifanc!

Alla i fod yn rhan o Bloedd os ydw i'n byw y tu allan i Gymru?

Gallwch, os ydych chi'n dod o Gymru neu wedi byw yng Nghymru am gyfnod. Cofiwch y byddai llawer o'n cyfleoedd yn gofyn i chi deithio i un o'n safleoedd, er bod cyfle i weithio'n hybrid hefyd.

Dwi'n gweithio'n llawn amser, alla i fod yn Gynhyrchydd Amgueddfa Cymru o hefyd?

Rydyn ni'n ceisio teilwra projectau i’r adegau mae Cynhyrchwyr Amgueddfa Cymru ar gael, a gallwn ni wneud llawer o’n gwaith y tu allan i oriau arferol ac ar-lein. Dyw pob un o gyfleoedd Cynhyrchwyr Amgueddfa Cymru ddim yn brojectau mawr, felly mae hyblygrwydd i ymuno â phrojectau sy'n addas i chi a'ch amserlen.

Dwi bron yn 25 – alla i gofrestru ar gyfer y rhwydwaith?

Gallwch chi fod yn rhan o Rwydwaith Bloedd tan eich pen-blwydd yn 26 oed, ac ar ôl troi’n 26 oed efallai y bydd cyfleoedd eraill i gofrestru ar gyfer cyfleoedd gwirfoddoli a lleoliadau heb gyfyngiadau oedran ar draws Amgueddfa Cymru.

Mae gen i ofynion mynediad; sut alla i gael cymorth?

Mae ffurflen ‘gofynion mynediad’ i'w llenwi cyn pob project neu weithdy. Gallwch chi rannu unrhyw wybodaeth a fynnwch chi yn y ddogfen hon er mwyn i ni sicrhau fod profiadau Bloedd mor hygyrch â phosib. Rydyn ni'n angerddol dros hawliau hygyrchedd a byddai rhannu eich gofynion a'ch anghenion yn helpu i hwyluso hyn.

Beth ydyn ni'n ei olygu wrth sôn am dreftadaeth?

Rydyn ni'n sôn tipyn am dreftadaeth yma yn Bloedd, sef pethau o'n gorffennol sy'n ein cysylltu â'n hunaniaeth a phobl eraill. Gall hyn fod drwy hanes cymdeithasol, celf, diwylliant, a byd natur.

Sut all pobl ifanc herio sefydliadau a hyrwyddo newid?

Drwy ymuno â Bloedd rydych chi'n hyrwyddo newid! Dechreuodd Bloedd fel project Tynnu’r Llwch wedi'i ariannu gan y Loteri, a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2023. Mae'r gwaith hwn wedi'i wreiddio ar draws yr Amgueddfa erbyn hyn – gwaith gwerthfawr sydd angen parhau a mynd o nerth i nerth! Mae tîm Bloedd Amgueddfa Cymru yn ymrwymo i herio hen strwythurau a gwneud lle i strwythurau newydd, drwy gynnig adnoddau a helpu pobl ifanc i arwain.

Beth os alla i ddim fforddio teithio i safleoedd Amgueddfa Cymru?

Rydym yn ad-dalu costau teithio parod, fel tocynnau trên neu fws.