Deinosoriaid yn Dianc yng Nghymru

Wyddech chi i’r olion traed deinosor cyntaf erioed, a grëwyd 220 miliwn o flynyddoedd yn ôl, gael eu darganfod yng Nghymru ym 1878?

Deinosoriaid yn Dianc

Fel rhan o raglen gyhoeddus fythgofiadwy Blwyddyn Chwedlau, gallwch chi hefyd hela deinosoriaid a dod i chwilio am y gosodiadau arbennig yn ein hamgueddfeydd cenedlaethol. Ar do Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd gallwch chi weld crafangau a ysbrydolwyd gan y deinosor Cymreig Dracoraptor, a dilyn ôl ei droed ar y lawnt i mewn i

arddangosfa Deinosoriaid yn Deor.

Yn

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru gwyliwch am yr anghenfil yn y beudai a’r olion traed yn y cae, ond cofiwch gadw llygad am y llygad sy’n gwylio o ffenestr Siop Gwalia!

Mae crafanc anferth i’w weld ar y ffordd at oriel Brenin Glo yn

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru ac olion traed ar y llethr gerllaw’r Baddondai Pen Pwll.

Mae’r deinosoriaid wedi crwydro i

Amgueddfa Lechi Cymru hefyd. Mae’r olion traed yn yr ardd, ond ble mae’r gynffon y crafangau a’r llygad yn cuddio?

Dysgwch fwy am ddeinosoriaid yng Nghymru ar

ein blog, neu gwyliwch y fideo i ddeall pam fod deinosoriaid a dreigiau yn rhan o chwedloniaeth Cymru yn y lle cyntaf.

Rhan o Flwyddyn Chwedlau 2017

#deinoyndianc #gwladgwlad #dinoontheloose #findyourepic