Digwyddiadau Digidol
online:Cyfarfod Agored Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
Gwahoddir aelodau’r cyhoedd sydd â diddordeb yng ngwaith Amgueddfa Cymru i fynychu cyfarfod chwarterol Bwrdd yr Amgueddfa dros fideo. Cynhelir pob cyfarfod rhwng 10.30am – 1pm ar y dyddiadau calynol yn 2021:
- Dydd Iau 24 Mawrth
- Dydd Iau 30 Mehefin
- Dydd Iau 29 Medi
- Dydd Iau 15 Tachwedd
Mae gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr – corff llywodraethol Amgueddfa Cymru, sy’n gyfrifol am reoli a gweinyddu cyllid ac eiddo’r Amgueddfeydd – yr awdurdod i benderfynu ar unrhyw fater sy’n ymwneud â materion Amgueddfa Cymru.
I fynychu’r cyfarfod, fydd yn ddwyieithog gyda chyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i Saesneg, cofrestrwch drwy e-bostio Bwrdd@amgueddfacymru.ac.uk erbyn 5pm ar y dydd Llun cyn y cyfarfod. Darperir rhagor o gyfarwyddiadau ymuno wedi i chi gofrestru. Ni allwn eich cofrestru wedi’r dyddiad cau hwn.
Gwybodaeth
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd