Digwyddiadau Digidol
DigwyddiadauDigwyddiad Digidol: Cyfarfod Agored Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
Gwahoddir aelodau’r cyhoedd sydd â diddordeb yng ngwaith Amgueddfa Cymru i fynychu cyfarfod chwarterol Bwrdd yr Amgueddfa dros fideo. Cynhelir pob cyfarfod rhwng 10.30am – 1pm ar y dyddiadau calynol yn 2023:
- Dydd Iau 23 Mawrth
- Dydd Iau 29 Mehefin
- Dydd Iau 28 Medi
- Dydd Iau 14 Tachwedd
Mae gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr – corff llywodraethol Amgueddfa Cymru, sy’n gyfrifol am reoli a gweinyddu cyllid ac eiddo’r Amgueddfeydd – yr awdurdod i benderfynu ar unrhyw fater sy’n ymwneud â materion Amgueddfa Cymru.
I fynychu’r cyfarfod, fydd yn ddwyieithog gyda chyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i Saesneg, cofrestrwch drwy e-bostio Bwrdd@amgueddfacymru.ac.uk erbyn 5pm ar y dydd Llun cyn y cyfarfod. Darperir rhagor o gyfarwyddiadau ymuno wedi i chi gofrestru. Ni allwn eich cofrestru wedi’r dyddiad cau hwn.