Digwyddiadau Digidol

Digwyddiad Digidol:Bocs Bwyd Oasis: Peli Cig Oen Swdanaidd

Wedi'i Orffen

Eleni, bydd Oasis a phrosiect Y Plât yn dod â phrydau blasus at garreg eich drws. Archebwch un o Focsys Cynhwysion Gŵyl Fwyd Amgueddfa ​​Cymru a dysgwch sut i wneud rhai o'u prydau traddodiadol mwyaf poblogaidd; o gysur eich cartref eich hun.

Bydd pob bocs yn cael ei baratoi gan Dîm Cegin Oasis a bydd yn cynnwys yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch chi, yn ogystal â cherdyn rysáit sy'n cyd-fynd â'r pryd. Bydd y bocsys hefyd yn cynnwys côd QR a fideo fel eich bod yn gallu gwylio’r arddangosiad coginio cam wrth gam.

Rysáit: Peli Cig Oen Swdanaidd
Peli cig oen Cymreig wedi'u trwytho mewn saws tomato ac iogwrt sawrus; wedi'i weini â reis gyda moron a phys. Y pryd cysur perffaith o Swdan.
Yn cynnwys Llaeth, Glwten.
£12 (y bocs)

Hefyd ar gael: Kookoo Sabzi Iranaidd (VG)

ARCHEBU

Mae'r bocsys ar gael i'w harchebu tan ddydd Llun 6ed o Fedi, ond bydd y blychau ar gael i'w dosbarthu neu eu casglu (o adeilad Oasis yn Sblot, Caerdydd) ar ddydd Gwener 10fed o Fedi, mewn pryd ar gyfer penwythnos Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru. Sylwch y codir tâl ychwanegol o £6 y bocs i'w gludo i'ch cartref.

Bydd pob bocs yn cynnwys digon o gynhwysion ar gyfer un dogn.

Ar ôl talu byddwch yn derbyn e-bost cadarnhau yn rhoi manylion pellach am sut a phryd y gallwch chi gasglu'ch bocs neu, fel arall, pryd y bydd y bocs yn cael ei ddosbarthu atoch chi.

Os hoffech gael unrhyw wybodaeth ychwanegol ynglŷn â chynnwys y bocsys, ymholiadau talu, danfon a chasglu neu unrhyw ymholiadau cyffredinol eraill, cysylltwch â: matt@oasiscardiff.org

 

Rydym yn edrych ymlaen at rannu'r ryseitiau gwych hyn gyda chi a gobeithiwn y byddwch yn rhannu eich lluniau bwyd gyda ni. Tagiwch ni ac Amgueddfa Cymru gan ddefnyddio'r dolenni isod:

@OasisCDF

@AmgueddfaCymru

#GwylFwydDdigidol


Gadewch i ni wybod beth oeddech chi’n feddwl.
Rydym ni wir yn gobeithio eich bod wedi mwynhau – ond os ddim, rydym ni dal eisiau gwybod! Bydd yn gymorth mawr i ni allu gwella digwyddiadau digidol yn y dyfodol.

CWBLHEWCH HOLIADUR BYR

Gwybodaeth

I 6 Medi 2021
Pris £12 y bocs
Addasrwydd Pawb
Archebu lle https://www.oasiscardiff.org/event/amgueddfa-cymru-food-festival-food-box

Peli cig oen mewn saws tomato a reis, wedi ei weini ar blât hardd

© Lia Moutselou

Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau