Digwyddiadau Digidol

Digwyddiadau

Digwyddiad Digidol: Sgwrs Amgueddfa: Patrymau pwrpasol Marciau defodol ar adeiladau Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Wedi'i Orffen
27 Hydref 2022, 6:00 - 6:45yh
Pris Talwch beth allwch chi, awgrymwn gyfraniad o £5
Addasrwydd Oedolion
 Teitl Sgwrs Amgueddfa - Museum Talks ar cefndir bwrdd sialc
Gwely
ffosil

I gadw ein cartrefi modern yn saff, mae clo ar bob drws a ffenest, ac yn aml mae larwm lladron. Ond, a yw ein cartrefi wedi eu diogelu rhag ysbrydion drwg? Wrth edrych yn fanwl ar adeiladau hanesyddol weithiau mae modd gweld marciau a symbolau sydd ddim yn amlwg ar yr olwg gyntaf. Crëwyd y rhain i ddiogelu’r tŷ a’i breswylwyr rhag ysbrydion drwg. Bydd y sgwrs hon yn bwrw golau ar y marciau defodol sydd yn amddiffyn adeiladau hanesyddol Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.  

Cynhelir y sesiwn yma yn Gymraeg.

Bydd y sgwrs hon yn cael ei chynnal fel gweminar by war Zoom. Bydd e-bost gyda dolen i ymuno â’r weminar yn cael eu hanfon i chi 2 awr cyn y sgwrs. Gall hefyd gael mynediad i’r ddolen yma trwy eich porth cwsmer Amguedda Cymru ar-lein. Edrychwch yn eich ffolderi sbam/sbwriel os na allwch weld yr e-byst a chysylltwch â digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk os oes problem.

Bydd y weminar ar gael i'w gwylio am 48 awr wedi'r digwyddiad a bydd dolen yn cael ei gyrru i chi drwy e-bost yn dilyn y sgwrs.

Os ydych chi’n prynu llyfrau yn gysylltiedig â’r sgwrs hon, cofiwch y bydd gwerthiant yn dod i ben 10 munud cyn y digwyddiad, ac y bydd pob archeb yn cael ei phostio ar ôl yr amser hwn. 

Tocynnau

Digwyddiadau