Digwyddiadau Digidol
online:Sgwrs Amgueddfa: Patrymau pwrpasol Marciau defodol ar adeiladau Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
I gadw ein cartrefi modern yn saff, mae clo ar bob drws a ffenest, ac yn aml mae larwm lladron. Ond, a yw ein cartrefi wedi eu diogelu rhag ysbrydion drwg? Wrth edrych yn fanwl ar adeiladau hanesyddol weithiau mae modd gweld marciau a symbolau sydd ddim yn amlwg ar yr olwg gyntaf. Crëwyd y rhain i ddiogelu’r tŷ a’i breswylwyr rhag ysbrydion drwg. Bydd y sgwrs hon yn bwrw golau ar y marciau defodol sydd yn amddiffyn adeiladau hanesyddol Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.
Cynhelir y sesiwn yma yn Gymraeg.
Bydd y sgwrs hon yn cael ei chynnal fel gweminar by war Zoom. Bydd e-bost gyda dolen i ymuno â’r weminar yn cael eu hanfon i chi 2 awr cyn y sgwrs. Gall hefyd gael mynediad i’r ddolen yma trwy eich porth cwsmer Amguedda Cymru ar-lein. Edrychwch yn eich ffolderi sbam/sbwriel os na allwch weld yr e-byst a chysylltwch â digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk os oes problem.
Bydd y weminar ar gael i'w gwylio am 48 awr wedi'r digwyddiad a bydd dolen yn cael ei gyrru i chi drwy e-bost yn dilyn y sgwrs.
Os ydych chi’n prynu llyfrau yn gysylltiedig â’r sgwrs hon, cofiwch y bydd gwerthiant yn dod i ben 10 munud cyn y digwyddiad, ac y bydd pob archeb yn cael ei phostio ar ôl yr amser hwn.
Gwybodaeth
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd