Digwyddiadau Digidol

Digwyddiadau

Digwyddiad Digidol: Amgueddfa Dros Nos: Deffro Gyda'r Deinos GARTREF

Wedi'i Orffen
11 a 12 Chwefror 2023, 2pm - 10am
Pris £5 + ffioedd Eventbrite
Addasrwydd Teuluoedd. Plant oed 6 - 12.
Archebu lle Eventbrite

 

Gwahoddiad arbennig i fwynhau noson yn yr Amgueddfa yr holl ffordd o adref.

 

Dyma fydd yn digwydd:

  • Adeiladu nyth a pharatoi i weld yr Amgueddfa mewn ffordd hollol wahanol.
  • Archwiliwch Cymru trwy'r oesoedd yn ein Oriel rhithwir Esblygiad Cymru.
  • Dweud helo wrth rai o’r deinosoriaid cyfeillgar sy’n crwydro’r adeilad.
  • Beth fyddi di am y noson – T. Rex neu Triceratops? Beth am greu masg deinosor dy hun!
  • Mwynhau ffilm cyn gwely, cyn gwersylla yn dy nyth deinosor a breuddwydio am fyd Jwrasig.
  • Dihuno’n gynnar am frecwast ac ymuno â dosbarth yoga i’r teulu cyfan.

 

Gwybodaeth Bwysig:

  • Digwyddiad ar-lein yw hwn i chi ei fwynhau adref. NID yw tocynnau’r digwyddiad hwn yn docynnau i ymweld yn y cnawd â Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
  • Digwyddiad ar gyfer plant 6-12 oed yw hwn.
  • Nifer cyfyngedig o docynnau sydd ar gael. Rhaid archebu tocynnau o flaen llaw.
  • Mae’r rhan fwyaf o’r cynnwys wedi’i recordio ymlaen llaw ond bydd yn cael ei ddangos fel pe bai’n fyw. Rydyn ni’n argymell eich bod yn dilyn y rhaglen yn ei threfn, ond gallwch fwynhau’r gweithgareddau yn eich amser eich hun hefyd.
  • Bydd pecyn ar gael i’w lawrlwytho ymlaen llaw, i’ch helpu i gynllunio’ch profiad dros nos.
  • Bydd y deunydd digidol ar gael i ddeiliaid tocynnau rhwng 2pm Sadwrn 11 Chwefror a 6pm Sul 12 Chwefror.- Archebwch 1 tocyn ar gyfer pob grŵp neu deulu. Gofynnir i chi ddarparu enwau’r sawl sy’n mynychu wrth gofrestru.
  • Bydd yr holl ddeunyddiau a gweithgareddau* ar gyfer y digwyddiad hwn yn ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg).
  • Dewiswch eich iaith wrth brynu tocyn. *Heblaw’r sioe deinosoriaid, cynnwys tu ôl i'r Llenni, a'r alwad fyw gyda Dino4Hire.  Cynhelir yr elfennau yma yn iaith cyntaf y cyflwynydd, sef Saesneg
  • Mae cyfieithiadau BSL ar gael ar gyfer yr holl gynnwys fideo. Cofiwch ddewis y tocyn cywir wrth archebu.

 

TOCYNNAU

Digwyddiadau