Digwyddiadau Digidol
DigwyddiadauDigwyddiad Digidol: Olion
Ymunwch â ni yn Ebrill i ddathlu Mis y Ddaear a chyfrannu at y mudiad byd-eang i daclo newid hinsawdd. Ar Ebrill 22 bydd pobl o bob cwr o'r byd yn dod at ei gilydd ar gyfer Diwrnod y Ddaear – diwrnod i sbarduno newid ein planed er gwell.
Y thema eleni yw Buddsoddi yn y Blaned, gyda'r nod o hyrwyddo datblygiad cymunedau iach, hapus a chyfoethog ledled y byd. I ddathlu Diwrnod y Ddaear, mae Amgueddfa Cymru wedi cydweithio â'r artist amgylcheddol Izzy McLeod i guradu cyfres o ddigwyddiadau ar-lein.
Drwy'r digwyddiadau hyn gallwch chi ddysgu am sawl agwedd o ymgyrchu amgylcheddol a magu'r hyder i wneud gwahaniaeth. Os ydych chi'n frwd dros yr amgylchedd erioed, neu'n dechrau ar eich taith gynaliadwyedd, ymunwch â ni am gyfres o ddigwyddiadau deniadol, llawn gwybodaeth fydd yn ein helpu i gael effaith bositif ar y blaned.
Bachwch ar y cyfle i ddysgu a gwneud gwahaniaeth!
Sgwrs 1: Carwch eich Dillad - gweithdy ysgrifennu creadigol
Sgwrs 2: Amgylchedd ac Ecoleg Cwiar