Digwyddiadau Digidol

online:Amgueddfa Dros Nos: Y Rhufeiniaid GARTREF

Wedi'i Orffen

Dewch ar antur Rufeinig gyda ni! Ymunwch â ni am noson llawn hwyl yn yr Amgueddfa o gysur eich cartref. 

Archebu tocynnau 

 

Dyma fydd yn digwydd: 

- Adeiladu cuddfan, gwisgo fel Rhufeiniaid, a pharatoi am antur hollol unigryw drwy’r Amgueddfa. 

- Ewch tu ôl i’r llenni i storfeydd yr Amgueddfa, i ddarganfod trysorau Rhufeinig yr hen Isca.   

- Paratowch i deithio’n ôl mewn amser, er mwyn hyfforddi fel llengfilwyr. 

- Barod am wledd? Cewch ddysgu beth oedd y Rhufeiniaid yn ei fwyta, cyn paratoi danteithion blasus adref!  

- Archwiliwch Gardd Rufeinig Caerllion mewn ymweliad rhithiol 360, cyn profi eich gwybodaeth mewn cwis ar-lein. 

- Ymlaciwch i wylio ffilm cyn gwely, ac yna ymuno â sesiwn fyfyrio, lle byddwn yn ymweld â ffynnon sanctaidd hudol. 

- Mwynhewch brecwast yn yr ardd, cyn creu gardd berlysiau a thrysorau Rhufeinig! 

 

 

Gwybodaeth Bwysig: 

- Anelir y digwyddiad hwn at blant rhwng 6 a 12 oed. 

- Digwyddiad ar-lein yw hwn i chi ei fwynhau adref. NID yw tocynnau’r digwyddiad hwn yn docynnau i ymweld yn y cnawd ag Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru.  

- Nifer cyfyngedig o docynnau sydd ar gael. Rhaid archebu tocynnau o flaen llaw. 

- Bydd y digwyddiad yn dechrau am 2pm ac yn gorffen am 10am y diwrnod wedyn.  

- Bydd pecyn ar gael i’w lawrlwytho ymlaen llaw, ynghyd ag adnoddau eraill i’ch helpu i gynllunio’ch profiad. 

- Mae’r rhan fwyaf o’r cynnwys wedi’i recordio ymlaen llaw ond bydd yn cael ei ddangos fel pe bai’n fyw. Rydyn ni’n argymell eich bod yn dilyn y rhaglen yn ei threfn, ond gallwch fwynhau’r gweithgareddau yn eich amser eich hun hefyd. 

- Bydd y deunydd digidol ar gael i ddeiliaid tocynnau rhwng 1.45pm dydd Sadwrn 18 Tachwedd a 10am dydd Llun 20 Tachwedd. Ni fydd y cynnwys ar gael ar ôl yr amser hwn.  

- Archebwch 1 tocyn ar gyfer bob grŵp neu deulu. Byddwn yn gofyn i chi ddarparu enwau’r sawl sy’n mynychu wrth gofrestru, at ddibenion y gystadleuaeth. 

- Bydd yr holl ddeunyddiau a gweithgareddau ar gyfer y digwyddiad hwn yn ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg), heblaw elfennau o’r cynnwys sydd wedi'i recordio ymlaen llaw. Bydd yr elfennau yma yn digwydd yn iaith gyntaf yr hwylusydd, sef Saesneg.

 

Gwybodaeth

18 a 19 Tachwedd 2023, 2pm - 10am
Pris £5 a ffioedd Eventbrite
Addasrwydd Teuluoedd. Plant oed 6-12
Archebu lle Eventbrite
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau