Digwyddiadau Digidol

Digwyddiadau

Digwyddiad Digidol: Sgwrs Amgueddfa AR-LEIN : Hanes Cymru yw Hanes Pobl Ddu

Wedi'i Orffen
8 Chwefror 2024 , 6pm
Pris Talwch Beth Gallwch
Addasrwydd Oedolion

Archebu Tocynnau 

 

Drwy gydol y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif, Caerdydd oedd un o'r porthladdoedd pwysicaf yn y byd, ac oherwydd ei gysylltiadau byd-eang, daeth yn ganolbwynt ar gyfer un o'r cymdeithasau amlddiwylliannol hynaf yn y DU, gyda mewnfudwyr yn setlo yno o bob cwr o'r byd.

 Mae'n hysbys mai'r gymuned Somaliland yw un o'r cymunedau lleiafrif ethnig hynaf yng Nghymru, gyda'i chysylltiad â Chymru yn tarddu o'r 19eg ganrif, pan gafodd morwyr Somali eu recriwtio i'r llynges fasnachol Brydeinig, cyn setlo yng Nghaerdydd a Chasnewydd. 
Mae taith hanesyddol y gymuned Somaliland Gymreig yng Nghymru yn brawf o gryfder amrywiaeth a gwytnwch. Mae eu cyfraniad at gymdeithas Cymru ym meysydd yr economi, addysg, diwylliant a datblygiad cymunedau wedi cyfoethogi gwead cymdeithasol y genedl. Wrth i Gymru barhau i esblygu fel cymdeithas amlddiwylliannol a gwrth-hiliol, mae'r gymuned Somali Gymreig yn sefyll fel enghraifft wych o'r effaith gadarnhaol y gall cymunedau mewnfudwyr ei chael ar eu gwlad fabwysiedig. Mae eu hanes a'u cyfraniad yn fodd i’n hatgoffa o bwysigrwydd dathlu amrywiaeth a meithrin cynwysoldeb yng Nghymru.

 

   

Gwybodaeth Bwysig 


 Cynhelir y sesiwn yma yn Saesneg 

Bydd y sgwrs hon yn cael ei chynnal fel gweminar by war Zoom. Bydd e-bost gyda dolen i ymuno â’r weminar yn cael eu hanfon i chi 24 awr cyn y sgwrs. Gall hefyd gael mynediad i’r ddolen yma trwy eich porth cwsmer Amguedda Cymru ar-lein. Edrychwch yn eich ffolderi sbam/sbwriel os na allwch weld yr e-byst a chysylltwch â digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk os oes problem. 

Bydd y weminar ar gael i'w gwylio am 48 awr wedi'r digwyddiad a bydd dolen yn cael ei gyrru i chi drwy e-bost yn dilyn y sgwrs.

Digwyddiadau