Digwyddiadau Digidol
online:Gweminar I: Molysgiaid yn Natur am Byth
Ymunwch â'r curaduron hanes natur am weminar fyw, arbennig am rai o anifeiliaid a phlanhigion gwyllt mwyaf swil Cymru.
O'r falwen droellog fach sy'n cuddio mewn twyni tywod, i Gragen Gylchog Arctig llynnoedd mynyddig, a'r Wystrys oedd unwaith mor gyffredin yn ein moroedd, mae molysgiaid yn goroesi yn y gwyllt ym mhob cwr o Gymru.
Dysgwch sut a ble allwn ni ganfod ac adnabod y molysgiaid hyn, eu cyswllt â phobl, a beth sy'n cael ei wneud i'w harbed rhag marw allan. Mae'r weminar hon yn rhan o gyfres o brofiadau adnabod rhywogaethau ar-lein gan guraduron hanes natur Amgueddfa Cymru. Bydd ein curaduron yn defnyddio ffotograffau a fideos o'r Amgueddfa a chynefinoedd gwyllt i fynd â chi ar 'daith maes rithwir' er mwyn dangos beth sy'n unigryw am bob rhywogaeth, a'r gwaith i'w gwarchod.
Mae'r gyfres yn trafod detholiad o rywogaethau sydd wedi'u targedu gan Natur am Byth, partneriaeth adfer ledled Cymru sy'n uno naw sefydliad cadwraeth a Cyfoeth Naturiol Cymru.
Rydyn ni'n dangos rhywogaethau llai adnabyddus, ac anodd eu hadnabod, yn fwriadol. Mae cynyddu cysylltiad pobl â'r rhywogaethau hyn yn un o amcanion pwysig Natur am Byth, ac mae'r weminar yn agored i unrhywun sydd â diddordeb ym mywyd gwyllt Cymru.
Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae Natur am Byth wedi ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, gyda chefnogaeth gan Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru a noddwyr eraill sydd wedi'u rhestru ar wefan y rhaglen.
Gwybodaeth ychwanegol
- Bydd cyfle i ofyn cwestiynau yn ystod y weminar.
- Bydd y cyflwyniad hwn yn cael ei roi ym mamiaith y siaradwr, sef Saesneg.
- Bydd y sesiynau yn rhedeg ar blatfform Vimeo.Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar Vimeo, trwy’r ebost y byddwch yn ei dderbyn am 5pm ar 1 Hydref 2024.
- Bydd y weminar yn cael ei recordio, a bydd fersiwn wedi'i golygu yn ymddangos ar-lein yn ddiweddarach.
Mae'r digwyddiad hwn am ddim, ond mae pob rhodd, boed yn fawr neu yn fach, yn ein helpu i sicrhau bod Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. Gallwch chi roi drwy fynd i Ein cefnogi | Amgueddfa Cymru.
Gwybodaeth
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd