Digwyddiadau Digidol

Digwyddiad Digidol:Natur am Byth Webinar 2: Trychfilod Trafferthus: Rhywogaethau Prin Gogledd Cymru

Wedi'i Orffen

Ymunwch â'r curaduron hanes natur am weminar fyw, arbennig am rai o anifeiliaid a phlanhigion gwyllt mwyaf swil Cymru.

Y tro hwn byddwn ni’n edrych ar ddwy rywogaeth llawn cymeriad o ogledd Cymru – Saerwenynnen Fawr y clogwyni, a Pryf Milwrol Clybiog y gwlyptiroedd. Byddwn ni’n dysgu pam fod y pryfed prydferth hyn yn brin, a beth sy’n eu gwneud nhw’n unigryw.

Dysgwch sut a ble allwn ni ganfod ac adnabod y molysgiaid hyn, eu cyswllt â phobl, a beth sy'n cael ei wneud i'w harbed rhag marw allan. 

Mae'r weminar hon yn rhan o gyfres o brofiadau adnabod rhywogaethau ar-lein gan guraduron hanes natur Amgueddfa Cymru. ⁠Bydd ein curaduron yn defnyddio ffotograffau a fideos o'r Amgueddfa a chynefinoedd gwyllt i fynd â chi ar 'daith maes rithwir' er mwyn dangos beth sy'n unigryw am bob rhywogaeth, a'r gwaith i'w gwarchod. Mae'r gyfres yn trafod detholiad o rywogaethau sydd wedi'u targedu gan Natur am Byth, partneriaeth adfer ledled Cymru sy'n uno naw sefydliad cadwraeth a Cyfoeth Naturiol Cymru.

Rydyn ni'n dangos rhywogaethau llai adnabyddus, ac anodd eu hadnabod, yn fwriadol. Mae cynyddu cysylltiad pobl â'r rhywogaethau hyn yn un o amcanion pwysig Natur am Byth, ac mae'r weminar yn agored i unrhywun sydd â diddordeb ym mywyd gwyllt Cymru. ⁠

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae Natur am Byth wedi ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, gyda chefnogaeth gan Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru a noddwyr eraill sydd wedi'u rhestru ar wefan y rhaglen.

Gwybodaeth ychwanegol

· Bydd cyfle i ofyn cwestiynau yn ystod y weminar.

· Bydd y cyflwyniad hwn yn cael ei roi ym mamiaith y siaradwr, sef Saesneg.

· Bydd y sesiynau yn rhedeg ar blatfform Vimeo.

· Bydd y weminar yn cael ei recordio, a bydd fersiwn wedi'i golygu yn ymddangos ar-lein yn ddiweddarach.

Mae'r digwyddiad hwn am ddim, ond mae pob rhodd, boed yn fawr neu yn fach, yn ein helpu i sicrhau bod Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. Gallwch chi roi drwy fynd i Ein cefnogi | Amgueddfa Cymru.

Mae ein rhaglen gyhoeddus yn cael ei chefnogi'n hael gan chwaraewyr People's Postcode Lottery.

Logos ar gyfer People's Postcode Lottery and Postcode Culture Trust

Mae ein rhaglen gyhoeddus yn cael ei chefnogi'n hael gan chwaraewyr People's Postcode Lottery.

Gwybodaeth

4 Mawrth 2025, 6pm - 8pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Oedran 15+
Archebu lle Hanfodol
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau