7-8 Medi 2024

Digwyddiad: Digwyddiadau Ffrinj

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Wedi'i Orffen
Mis Medi, Digwyddiadau bwyd gwahanol yn cael eu gynnal ar lein neu yn safleoedd eraill Amgueddfa Cymru
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Caiff Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru 2022 ei chynnal yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan ar 10 & 11 Medi. Fodd bynnag, mae Amgueddfa Cymru hefyd wedi rhaglennu digwyddiadau eraill ym mis Medi yn ymwneud â'r thema bwyd, ac fe gaiff rheiny eu cynnal yn rhai o'n safleoedd eraill ac ar-lein.

 

Sgwrs Amgueddfa: Hanes Gwneud Seidr yng Nghymru

Digwyddiad Digidol
Nos Iau 8 Medi, 6 - 6:30pm

Hanes cynhyrchu seidr yng Nghymru, gyda lluniau. O gyfeiriadau anelwig cynnar i'w dwf fel arfer gweledig cyffredin yn y 18fed a'r 19eg ganrif, i'w ddirywiad, a'i adfywiad yn niwedd yr 20fed ganrif.

Diod alcoholig wedi'i fragu drwy eplesu sudd afal yw siedr. Seidr oedd diod gyffredin nifer fawr o drigolion gororau Cymru tan ddechrau'r 20fed ganrif. Roedd cynhyrchu seidr yn grefft fedrus a hynafol oedd yn gyffredin tan ddiwedd y 1950au, pan ddisodlwyd y grefft gan gynnyrch y cwmniau masnachol. Byddai seidr cartref yn parhau i gael ei gynhyrchu ar raddfa lai gan ffermdai, wnaeth gadw'r grefft yn fyw cyn i do newydd o fragwyr crefft gymryd yr awenau yn y 1990au, gan arwain at yr adfywiad a'r datblygiad presennol. 

Cynhelir y sesiwn yma yn Gymraeg.

Mwy o wybodaeth a thocynnau yma

 

Noson Swper GRAFT

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe 
Nos Wener 9 Medi, 6.30pm

Pris: £15 

Ymunwch â ni yng ngardd gymunedol GRAFT ar 9 Medi fel rhan o Ŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru, am bryd o fwyd tymhorol wedi’i goginio yn ein popty tân coed a adeiladwyd gan y gymuned. Byddwn yn croesawu cynhyrchwyr bwyd lleol, llysgenhadon a phrojectau cymunedol o’r ddinas ar gyfer gwledd go wahanol.

Mwy o wybodaeth a thocynnau yma

 

Swper Oasis yn Sain Ffagan

Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, Caerdydd CF5 6XB
Nos Wener 9 Medi, cyrraedd am 6pm

Pris: £30

Ymunwch â ni am wledd unigryw yn awyrgylch hanesyddol hudolus Llys Llywelyn.

Bydd tîm cegin Oasis yn cyfuno bwydydd traddodiadol Cymreig gyda dylanwadau o bob cwr o’r byd. Dewch draw am noson o adloniant wrth i ni ddathlu’r ffordd y gall bwyd ddod â diwylliannau ynghyd, yn y digwyddiad arbennig hwn gan Glwb Swper Oasis yn Sain Ffagan.

Mwy o wybodaeth a thocynnau yma

 

Sgwrs Amgueddfa: Hortus Culture 

Digwyddiad Digidol
15 Medi 2022, 6 -7pm 

Tallwch Beth Allwch - Rhodd a awgrymir: £5

Mae tystiolaeth archaeolegol o'r Brydain Rufeinig yn dangos fod garddio i hamddena a mwynhau yn boblogaidd gan Rufeiniaid cyfoethog. Y gair Lladin am ardd yw 'hortus', a dyma wreiddyn y gair Saesneg horticulture. Mae'r sgwrs hon yn amlinellu'r syniad o blannu gardd boblogaidd wedi'i hysbrydoli gan arferion Rhufeinig yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru Caerllion. Byddwn ni'n edrych yn gyflym ar dystiolaeth o erddi a garddio Rhufeinig.

Cynhelir y sesiwn yma yn Saesneg.

Mwy o wybodaeth a thocynnau yma

 

Arddangosfa: Bwyd Lleol

Lleoliad: Amgueddfa Genedlathol y Glannau, Abertawe

Dyddiad: 2 Ebrill - 18 Medi 2022 

Pris: Am Ddim 

Darganfyddwch rai o'n cerbydau dosbarthu bwyd anhygoel o'r gorffennol. Dysgwch am rai o'r bobl, busnesau a phrosiectau sy'n gysylltiedig â siopa'n lleol yn y gorffennol ac yn y presennol. Gall ‘prynu’n lleol’ olygu pethau gwahanol i wahanol bobl. Beth mae'n ei olygu i chi?

 

 

 

 

Digwyddiadau