


Y Rhaglen

Digwyddiad: Cyfieithwyr ar y pryd BSL Symudol
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen

Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd BSL ar gael yn y digwyddiad. Bydd y gwasanaeth hwn yn cael ei ddarparu gan gyfieithwyr ar y pryd cwbl gymwysedig a rhai cyfieithwyr ar y pryd dan hyfforddiant / gweithwyr cymorth cyfathrebu.
Mae cyfieithwyr ar y pryd symudol ar gael yn y digwyddiad i dywys ymwelwyr B/byddar o amgylch yr ŵyl, mynychu gweithdai gyda nhw, ac i'w helpu i archebu bwyd a diod.
Gellir archebu cyfieithwyr ar y pryd symudol ar y diwrnod o'r Man Gwybodaeth am y Digwyddiad yn y Prif Adeilad.
Bydd rhai gweithgareddau a pherfformiadau yn cael eu cynnal a'u perfformio gan hwyluswyr a pherfformwyr byddar:
Os oes angen cymorth neu gefnogaeth arnoch chi ar gyfer gweithgareddau nad ydynt yn cael eu darparu gan hwyluswyr byddar, ewch i'r Man Gwybodaeth am y Digwyddiad yn y Prif Adeilad i archebu cyfieithydd ar y pryd symudol.