7-8 Medi 2024

Y Rhaglen

Digwyddiad: Perfformiadau Crwydrol Theatr Taking Flight

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
7 a 8 Medi 2024 , 11am-3pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Yma yng Nghwmni Theatr Taking Flight rydym yn creu cynyrchiadau theatr eofn ac anghyffredin gyda pherfformwyr sy’n Fyddar, yn anabl, a heb fod yn anabl.
 
Ein Cenhadaeth... yw dinistrio’r rhwystrau sy’n cadw pobl rhag cymryd rhan yn y theatr, gan wthio’n ddibaid yn erbyn yr hyn sy’n eu hatal rhag bod yn greadigol. Ein nod yw hybu cynrychiolaeth pobl Fyddar ac anabl yn y theatr trwy lefelu’r llwyfan. Dymunwn newid tirwedd y celfyddydau yng Nghymru a’r tu draw trwy herio eraill i feddwl mewn ffyrdd mwy cynhwysol.
 
Gallwch ddisgwyl perfformiadau sy'n llawn hwyl, comedi golbio a chyfranogiad cynulleidfa.
Digwyddiadau