Sophie Mak-Schram

Canolfan Gelfyddydau Chapter ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Megaffon a ddefnyddiwyd gan Fudiad Gwrth-Apartheid Cymru yn ystod yr 1980au.

Megaffon a ddefnyddiwyd gan Fudiad Gwrth-Apartheid Cymru yn ystod yr 1980au.

Cwpan jâd (Ming Dynasty) 1500-1600 OC, wedi'i gerfio ar ffurf llestr defodol efydd hynafol, gyda dolenni draig.

Cwpan jâd (Ming Dynasty) 1500-1600 OC, wedi'i gerfio ar ffurf llestr defodol efydd hynafol, gyda dolenni draig.

Bywgraffiad

Mae Sophie Mak-Schram yn ymgysylltu ag eraill mewn gwaith penodol i le mewn perthynas â grym, cydberchnogaeth, gwybodaeth a'r dyfodol. Mae'n gweithio gydag eraill, o ran ei dull a'i ffurf, ac yn tynnu ar arferion profiadol, artistig, dad-drefedigaethu ac ar y cyd er mwyn tynnu pobl at ei gilydd, ail-ddychmygu a dyfeisio. Mae Sophie yn tynnu ar ei phrofiadau personol a chyffredin o wahaniaethau diwylliannol, gwladychiaeth, hil a rhyw.

Mae'n aml yn defnyddio 'offeryn' fel trosiad barddonol a gwrthrych ymarferol i fynd i'r afael â beth rydyn ni'n ei wybod a sut, a pha ran ydyn ni'n ei chwarae yng nghysyniad pŵer a'r syniad o berthyn. Mae Sophie'n dod â phobl ynghyd, yn hwyluso, yn ysgrifennu, yn darllen, yn creu gwrthrychau a'u defnyddio i ddeall neu wrando.

Disgrifiad

Beth yw grym? A phwy sy'n cadw'r grym hwnnw?

Yn 2023–2025, archwiliodd yr artist Sophie Mak-Schram sut mae pŵer yn cael ei brofi, ei rannu a'i herio o fewn Amgueddfa Cymru a Chanolfan Gelfyddydau Chapter.

Trwy weithio gydag ymgyrchwyr, gweithwyr cymuned, artistiaid a staff amgueddfa – datblygodd Sophie 'offer' cydweithio sy'n herio strwythurau grym ac yn eu hailddychmygu.

Mae'r 'offer' cydweithio yn amrywio o dempledi mynediad a phrosesau gwaith newydd i uwch-seinydd wedi'i addasu a darnau cerameg, gan greu cyfleoedd i ddysgu ar y cyd a chyd-greu mewn ffordd decach.

Mae'r arddangosfa ddwy ran Dyfal Droi y Garreg, yn canolbwyntio ar gategoreiddio (Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd) a ffurfiau ymgynnull (Chapter).

Yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, mae'r arddangosfa'n ystyried sut mae gwrthrychau yn cael eu casglu a'u hadnabod, llais pwy sy'n cael ei glywed yn siarad am y gwrthrychau hyn, a sut i dorri ar draws rhai o reolau cudd yr amgueddfa.

Bydd yr arddangosfa'n cynnwys rhai o'r offerynnau ochr yn ochr ag eitemau allweddol o gasgliadau'r amgueddfa, gan gynnwys y Casgliad Allestyn Ysgolion a'r coridor Celf Asiaidd. Mae'n dangos sut mae pŵer yn siapio'r hyn sy'n cael ei weld, ei gadw a'i ddehongli.

Dyfyniad

"Mae dad-drefedigaethu yn cynnwys gwyrdroi nifer o'r gwerthoedd a'r strwythurau sydd ar hyn o bryd yn gorthrymu'r rhan fwyaf ohonom. Y cwestiwn, mewn cyd-destun Ewropeaidd, yw: a oes modd dad-drefedigaethu tra bod y safbwynt canolog yn drefedigaethol? Rydw i wedi bod yn gweithio ar themâu yn ymwneud â'r cwestiwn yma yn fy ngwaith artistig ac academaidd ers amser hir, ac mae'n gyffrous i fod nawr yn gweithio yn benodol ar safbwynt Cymreig, a Chaerdydd yn benodol, sy'n ddinas a chanddi lawer o hanesion cymhleth."

Ymweld a'r arddangosfa

Mae manylion sut i ymweld a'r arddangosfa ar gael ar ein tudalen digwyddiadau:

Ymweld a'r arddangosfa