Nasia Sarwar-Skuse

Ways of Working a Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

BYWGRAFFIAD

Mae Nasia yn olygydd, awdur arobryn, artist a hwylusydd creadigol. Mae'n astudio PhD mewn Ysgrifennu Creadigol a Beirniadol ym Mhrifysgol Abertawe, dan nawdd Ysgoloriaeth Ragoriaeth mewn Ymchwil Prifysgol Abertawe. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar drefedigaethu India a Phacistan, dad-drefedigaethu, mudo, a sut mae'r themâu hyn yn plethu â chof a rhywedd. Mae gwaith Nasia wedi cael ei gyhoeddi mewn nifer o gyhoeddiadau gan gynnwys Wasafiri, Visual Verse Just So You Know: Essays of Experience – Anthology (Parthian Books), Lumin Press, In The Kitchen – Anthology (Dahlia Books), gal-dem,

DISGRIFIAD

Mae project Nasia yn archwilio'r Amgueddfa fel lle sy'n cynnal ac yn datgymalu naratifau grym ac yn cael ei gynnal yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru trwy gydol 2024 a dechrau 2025. Gan gydweithio gyda chwmni celfyddydau ac arfer cymunedol Ways of Working ac Amgueddfa Cymru, creodd Sarwar-Skuse bedwar gosodiad gan ddwyn ysbrydoliaeth o'i gwaith ymchwil. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae pabell a ysbrydolwyd gan Tipu Sultan, ffilm benodol i'r safle, ac ystafell fyw De Asiaidd o'r 1970au gyda soffa Clive o India yn ganolbwynt. Gwahoddwyd Cydweithfa Trindod Aurora, grŵp llawr gwlad dan arweiniad menywod lliw, i gynnwys lleisiau a gwaith celf newydd.

DYFYNIAD

"Fe ddechreuais i weithio gyda Safbwynt(iau) wrth ymchwilio i gyswllt Robert Clive â Chymru ar gyfer traethawd ymchwil, oedd yn gyfle gwych i herio'r hanesion traddodiadol drwy amlygu straeon oedd wedi'i hesgeuluso a chysylltiadau a'r Ymerodraeth, yn enwedig straeon yn ymwneud â'r teulu Clive, ac i feithrin dealltwriaeth well o dreftadaeth ddiwylliannol Cymru."

CYFRYNGAU CYMDEITHASOL / GWEFAN

X/Twitter:@NSarwarSkuse

Instagram:https://www.instagram.com/sarwarskuse/

Gwefan:https://nasiasarwarskuse.com/

Darganfyddwch fwy am brosiect Nasia