Beth mae’r casgliadau yn yr amgueddfa yn ei ddweud am gynrychiolaeth yng Nghymru? Sut allwn ni roi llwyfan i hanesion sydd wedi cael eu gwthio i’r cyrion fel rhan o fywyd Cymru heddiw? Lleisiau a straeon pwy sy’n gryfach yma?
Mae’r artist, Nasia Sarwar-Skuse, a’r sefydliad celfyddydol Ways of Working yn archwilio’r themâu hyn mewn cyfres o osodweithiau ar draws safle yr amgueddfa. Gallwch weld eu gwaith yn y lleoliadau canlynol:
Atriwm Sain Ffagan (prif fynedfa) Cyfle i chi ymateb i gwestiynau gan Nasia a Ways of Working ynglŷn â gwladychu, pŵer ac amgueddfeydd. Mae’r cwestiynau yn newid yn fisol. Rhannwch eich argraffiadau a’ch barn.
Oriel Cymru…
Yma gwelwch ail-gread o ystafell fyw sy’n llawn sgyrsiau am atgofion, ymfudo, ac ystyr ymerodraeth heddiw. Yng nghanol y gosodwaith mae soffa Robert Clive (1725-74), neu ‘Clive o India’. Mae gwahoddiad agored i chi ystyried yr eitem o fewn y cyd-destun domestig hwn a ffocysu ar y gwladychwr.
Castell Sain Ffagan (y neuadd) - Ar agor tan 30 Mawrth 2025
Profwch yr ail-gread o babell Tipu Sultan (1750-99), llywodraethwr teyrnas Mysore, wedi ei ysbrydoli gan ei ddyddiadur breuddwydion ac ymchwil i’w fywyd. Cafodd y babell wreiddiol ac arteffactau eraill, sydd yng nghasgliad Castell Powis, eu hysbeilio a daeth yn gyfalaf diwylliannol pwerus i’r gwladychwyr. Mae teulu Windsor-Clive o Gastell Sain Ffagan yn gysylltiedig â Clive o India drwy briodas ei ŵyr, Robert Henry Clive gyda’r Arglwyddes Harriet Windsor.
Castell Sain Ffagan (ystafell fwyta) - Ar agor tan 30 Mawrth 2025
Presenoldeb Absennol – ffilm wedi ei leoli yng ngerddi a Chastell Sain Ffagan, gan Nasia Sarwar-Skuse. Perfformiwyd gan Sanea Singh a ffilmiwyd gan Ruslan Pilyarov.
Mae Safbwynt(iau) yn broject ar y cyd rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru gyda’r bwriad o weddnewid sut mae’r sector treftadaeth a chelfyddyd weledol yn adlewyrchu amrywiaeth diwylliannol ac ethnig ein cymdeithas. Cefnogir y project gan Lywodraeth Cymru fel rhan o ymdrech i gyflawni amcanion diwylliant a threftadaeth y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd