Safbwynt(iau)

Lleisiau pwy sy'n cael eu clywed mewn amgueddfeydd? Hanesion pwy sy'n cael eu hadrodd? A sut mae edrych tua'r gorffennol yn ein helpu i greu dyfodol gwrth-hiliol? Dyma gwestiynau hanfodol y mae saith artist o dras ethnig a diwylliannol amrywiol o bob cwr o Gymru yn eu taclo yn rhan o Safbwynt(iau), rhaglen gelfyddydol arloesol lle mae artistiaid yn rhoi llais newydd i straeon gwrthrychau o'r casgliad cenedlaethol, gan ail-ddychmygu a rhoi persbectif newydd ar hanes Cymru; herio ein rhagdybiaethau a rhoi sylw i'r straeon a wthiwyd i'r ymylon.

Mae Safbwynt(iau) yn datgelu hanesion cudd y casgliadau cenedlaethol, o 'webs', sef brethyn Cymreig a ddefnyddiwyd i greu dillad i bobl o Affrica gafodd eu cipio a'u caethiwo, i soffa goch foethus Robert Clive, ffigwr allweddol yn hanes trefedigaeth Prydain yn India. Mae'r rhaglen yn mynd i'r afael â gwaddol cymhleth a phoenus, yn taflu goleuni newydd ar y gorffennol ac yn gosod sylfeini ar gyfer dyfodol mwy cynhwysol sy'n cydnabod y cyfraniadau a’r profiadau amrywiol sydd wedi siapio Cymru a'r byd.

Mae Safbwynt(iau), sy'n broject ar y cyd rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru, yn rhan o Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.