Straeon y Streic
Mae dros ddeugain mlynedd wedi mynd heibio ers i 22,000 o lowyr Cymru gadael eu gwaith a cherdded allan o lofeydd ar draws Cymru mewn protest yn erbyn cynlluniau’r Bwrdd Glo Cenedlaethol i gau 20 o lofeydd ar draws Prydain. Fe barhaodd Streic 84-85 am ddeuddeg mis hir, gan faethu undod digynsail a deffroad gwleidyddol yng Nghymru. Roedd y gost i’r bobl yn enfawr: teuluoedd yn dioddef cyfnodau caled, cymunedau’n cael eu rhwygo, a pharhad i ddirywiad y diwydiant glo.
Fe effeithiodd y streic ar bawb mewn rhyw ffordd. Yn y gyfres yma o Straeon y Streic fe glywn ni am y gorau a gwaetha o fywyd yn ystod y flwyddyn a newidiodd fywydau glowyr, eu teuluoedd, yr heddlu a gwleidyddion wrth iddynt hel atgofion am beth oedd bywyd fel rhwng 84-85.
Mae Straeon y Streic yn rhan o arddangosfa Streic 84-85 Strike sydd i'w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd tan Ebrill 27 2025.