Teithiau Iaith Arwyddion Prydain (BSL)

Mae Amgueddfa Cymru yn cynnig teithiau iaith arwyddion Prydain (BSL) o amgylch rhai o'n hamgueddfeydd, orielau a safleoedd. Beth am ymuno â ni i archwilio ein hamgueddfeydd a'n casgliadau trwy BSL.

Mae’r teithiau am ddim hyn ar gyfer ymwelwyr byddar neu drwm eu clyw. Caiff y teithiau eu harwain gan dywysydd sy’n defnyddio BSL.

Mae manylion llawn y teithiau BSL sydd ar y gweill isod. Rhaid archebu ymlaen llaw, ond mae tocynnau ⁠am ddim.

Rhowch wybod wrth archebu os hoffech chi ofyn am unrhyw gymorth o ran mynediad neu hygyrchedd.

Am unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud â archebu tocynnau, e-bostiwch:tocynnau@amgueddfacymru.ac.uk

Os ydych chi wedi archebu ond yn methu dod, cysylltwch â ni ar y cyfeiriad e-bost uchod er mwyn i ni gynnig y tocyn i rywun arall.

Rhaglen o deithiau:

Logo Iaith Arwyddion Prydain gyda dwy law yn arwyddo. Mae'r logo hwn yn dynodi y bydd dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain yn bresennol neu fod gwasanaethau Iaith Arwyddion Prydain yn cael eu cynnig.