Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
🔍 Darganfod ac Archwilio
Sut brofiad oedd gweithio dan ddaear i lowyr a cheffylau’r pwll glo?
Dewch i weld sut yr oedd glo yn cael ei gloddio yng Nghymru a phrofi'r amodau gwaith o dan y ddaear.
✏️ Cymryd Rhan
Teithiwch 90 metr (300 llath) danddaear a chael taith unigryw a chofiadwy drwy ran o'r hen waith glo gydag un o Dywyswyr Glofa Big Pit.
ℹ️ Ynglŷn â'r sesiwn hon
Yn ystod y daith danddaear, bydd ymwelwyr yn cerdded 700 metr gan wisgo helmed a chario lamp sy'n pwyso 5 kg.
Mae'r lamp hon wedi'i chymeradwyo at y diben gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ond mae'n llawer llai llachar na fydd y rhan fwyaf o bobl wedi arfer ag ef.
Bydd staff Big Pit yn eich helpu chi i wisgo helmed, lamp a belt cyn mynd danddaear, fydd yn galw am ychydig o gyffwrdd. Rhowch wybod i'r staff os ydych chi'n poeni am hyn.
Rhowch wybod i ni wrth archebu os oes gennych chi ddisgyblion a allai fod yn sensitif i’r profiadau hyn, ac fe wnawn ein gorau i wneud i bawb deimlo’n gyfforddus.
Nifer
17 person (a Thywysydd Glofa).
Cyfradd disgyblion / staff
hyd at 8 oed: 6 disgybl / 1 oedolyn
8 – 11 oed: 10 disgybl / 1 oedolyn
11 – 16 oed: 14 disgybl / 1 oedolyn
*Does dim angen dillad arbennig ar gyfer y daith danddaear, ond rydyn ni'n argymell i chi wisgo dillad cynnes ac esgidiau addas.
Dyniaethau: Ymholi, archwilio ac ymchwilio yn annog chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a'i ddyfodol. / Mae byd natur yn amrywiol a dynamig, a dan ddylanwad prosesau a gweithgarwch dyn.
Amcanion dysgu:
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3650