Gweithdy Amgueddfa

Plant y Pwll Glo: Gweithio yng Nghymru'r Chwyldro Diwydiannol

🔍 Darganfod ac Archwilio

Sut oedd bywyd i'r plant a oedd yn gweithio ym mhyllau glo Cymru? 

Dewch i fod yn hanesydd a chlywed tystiolaeth go iawn gan blant fel Henrietta Franklin, 11 oed, a oedd yn gweithio yn tynnu dramiau o lo ym Merthyr Tudful. Cewch ddarganfod sut y chwaraeodd y plant a oedd yn gweithio yn y pyllau glo ran yn trawsnewid Cymru i'r hyn rydyn ni'n ei adnabod heddiw.

✏️ Cymryd Rhan

Yn y sesiwn hon, byddwch chi'n profi'r un amodau gwaith â’r plant oedd yn gweithio.

Cewch dynnu dram, cropian drwy bwll glo, gweld ac arogli gorffennol diwydiannol Cymru.

ℹ️ Ynglŷn â'r sesiwn hon

Mae Plant y Pwll Glo yn trafod themâu iechyd ac anafiadau ac mae'n cyfeirio rhywfaint at farwolaeth. 

Sesiwn ryngweithiol yw hon sydd ag elfennau corfforol. Rhowch wybod i ni wrth archebu os oes gennych chi ddisgyblion a allai fod yn sensitif i’r profiadau hyn, ac fe wnawn ein gorau i wneud i bawb deimlo’n gyfforddus.

Hyd: 1 awr
Dyddiadau: I ganfod os oes lle, anfonwch enw'r ysgol, nifer y disgyblion a'r flwyddyn addysg, a dyddiadau dewisol at bigpit@amgueddfacymru.ac.uk neu ffoniwch (029) 2057 3650.
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £40 am hyd at 15 disgybl, £60 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i rai ysgolion (gwelwch sut i archebu).

Cwricwlwm

Dyniaethau: Ymholi, archwilio ac ymchwilio yn annog chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a'i ddyfodol.

Iechyd a Lles: Mae sut fyddwn ni'n ymwneud â dylanwadau cymdeithasol yn siapio ein personoliaeth ac yn effeithio ar ein hiechyd a'n lles.  

Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu: Mae deall ieithoedd yn allweddol i ddeall y byd o'n cwmpas ni.

Amcanion dysgu:

  • Adeiladu cnewyllyn gwybodaeth a meithrin y sgiliau i gysylltu a chymhwyso'r wybodaeth honno mewn gwahanol gyd-destunau drwy ddysgu am fywyd bob dydd plant Oes Fictoria yn y cartref, yr ysgol a'r gwaith. Mae'r arddangosfa hon yn rhoi sylw i fenywod oedd yn gweithio yn niwydiant glo Cymru. ⁠
  • Arwain a chwarae rolau gwahanol a deall cyfrifoldebau plant yng Nghymru'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. 
  • Datblygu dealltwriaeth o'u diwylliant, eu cymuned, eu cymdeithas a'u byd, ddoe a heddiw, drwy gymharu eu bywydau nhw â bywydau plant yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. 
  • Meithrin lles meddyliol ac emosiynol drwy ddatblygu hyder, gwytnwch ac empathi drwy ddysgu am iechyd a lles plant yn y gorffennol a'u bywydau nhw heddiw. ⁠  ⁠ 
Dwylo athro a disgybl yn edrych trwy ffolder tystiolaeth
Glo mewn dram
Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3650