Gweithdy Amgueddfa

Teganau a Gemau o’r Gorffennol

🔍 Darganfod ac Archwilio

Darganfyddwch y teganau roedd plant yn chwarae â nhw yn y gorffennol, ac mor wahanol maen nhw i deganau modern. Archwiliwch y casgliad o deganau traddodiadol sydd gennym i’w cyffwrdd. Profwch sut beth yw chwarae gyda chwpan a phêl, sgitls, a mwy.

✏️ Cymryd Rhan

Bydd y disgyblion yn cael cyfle i chwarae gyda theganau traddodiadol a’u cymharu â theganau modern.

ℹ️ Ynglŷn â’r sesiwn hon

Bydd y sesiwn yn digwydd yn ein gofod addysg pwrpasol.

Uchafswm o 30 disgybl.

Beth am geisio gwneud teganau traddodiadol eich human?

Hyd: 45 munud
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £40 am hyd at 15 disgybl, £60 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i rai ysgolion (gwelwch sut i archebu).

Cwricwlwm

Y Dyniaethau

Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol. 

Iechyd a Lles

Mae datblygu iechyd a lle y corf yn arwain at fuddiannau gydol oes.

Teganau Traddodiadol
Teganau Traddodiadol
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3424 neu e-bostiwch addysg.sainffagan@amgueddfacymru.ac.uk

Adnoddau