Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Camwch yn ôl mewn amser gan ddod â'r byd cynhanesyddol yn fyw yn yr antur ryngweithiol, llawn synau! Yn Synau’r Deinosoriaid, bydd disgyblion yn archwilio gwrthrychau go iawn o’r amgueddfa, yn ymchwilio i gliwiau diddorol am ffosilau, ac yn defnyddio eu chwilfrydedd i ofyn cwestiynau mawr am oes y deinosoriaid.
Bydd dysgwyr yn cael cyfle i drin ffosilau deinosoriaid go iawn. Drwy chwarae creadigol a dysgu synhwyraidd, bydd plant yn dychmygu ac yn ail-greu coedwig gynhanesyddol drwy adeiladu nyth o lysysyddion a chigysyddion. Byddwn yn gorffen gyda sesiwn adrodd straeon bywiog, sy'n seiliedig ar sain lle byddant yn dod yn rhan o'r dirwedd gynhanesyddol.
Mae'r gweithdy’n cynnwys trafodaethau ynghylch difodiant ac yn cynnwys ail-greu synau y gallai deinosoriaid fod wedi'u gwneud. Rhowch wybod i ni pan fyddwch chi'n archebu os oes gennych unrhyw ddisgyblion a fyddai'n sensitif i'r profiadau hyn, a byddwn yn gwneud ein gorau glas i wneud i bawb deimlo'n gyfforddus!
Feedback from schools
Y Celfyddydau Mynegiannol
Y Dyniaethau
Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3240 neu e-bostiwch addysg@amgueddfacymru.ac.uk