Gweithdy Amgueddfa

Cymru 2000 o flynyddoedd yn ôl | Ymweliad â Thai Crwn Oes Haearn Bryn Eryr

🔍 Darganfod ac Archwilio

Darganfyddwch sut roedd pobl Cymru yn adeiladu eu cartrefi ac yn byw dros 2000 o flynyddoedd yn ôl. Archwiliwch ‘Bryn Eryr’, ein tŷ crwn Oes Haearn, a darganfod sut cafodd y tŷ crwn ei greu. Byddwch hefyd yn dysgu beth roedd y Celtiaid yn ei fwyta a sut roedden nhw’n gwneud bara, pam mae’r cyfnod yn cael ei alw’n Oes Haearn, a sut byddai’r Celtiaid yn amddiffyn eu cartref. 

✏️  Cymryd Rhan

Rhyngweithiwch gyda gwrthrychau wedi’u creu o asgwrn, efydd a haearn, a cheisio adnabod pa fwydydd roedd y Celtiaid yn ei fwyta a pha rai na fydden nhw wedi’u gweld erioed.

ℹ️ Ynglŷn â’r sesiwn hon

Nid oes llawer o olau yn y tai crwn, a gall yr amgylchedd fod yn frawychus i’r rhai sy’n anghyfforddus mewn mannau tywyll. Mae yna dân yng nghanol yr adeilad sy’n creu arogl cryf a mwg. Mae rhai o’r llwybrau sy’n arwain at yr adeilad yn anwastad. Rhowch wybod i ni pan fyddwch chi'n archebu os oes gennych unrhyw bryderon am y profiad hwn, a byddwn yn gwneud ein gorau glas i wneud i bawb deimlo'n gyfforddus.

Uchafswm o 30 disgybl.

Argymhellir ein Gweithdai Dangos a Dweud yn Sain Ffagan - Bryn Eryr: Tai Crwn o Oes yr Haearn ar gyfer disgyblion Blwyddyn 2 ac iau.

Cymru yn Oes yr Haearn - Bywyd Bob Dydd y Celtiaid: elyfr i defnyddio arol neu cyn ymweld. Yn rhad ac am ddim.

Hyd: 1 awr
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £40 am hyd at 15 disgybl, £60 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i rai ysgolion (gwelwch sut i archebu).

Cwricwlwm

Y Dyniaethau

Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.

Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymleth a chȃnt eu hamgyffred, eu dehongli a’u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd.

Bryn Eryr
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3424 neu e-bostiwch addysg.sainffagan@amgueddfacymru.ac.uk