Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Camwch yn ôl mewn amser i gwrdd â Rhufeiniwr sy’n paratoi ar gyfer gŵyl ganol gaeaf Saturnalia! Beth oedd yn digwydd yn y dathliadau Rhufeinig hyn? Pa anrhegion oedd pobl yn eu rhoi a’u derbyn? Beth oedden nhw’n ei fwyta? Dewch i brofi Saturnalia, gŵyl llawn traddodiad, crefydd a bwyd!
Hanes y Satwrnalia. Fideo a gynhyrchwyd gan Somerton Primary School.
Rhowch eich pileus (het) ymlaen ac ymuno â ni i ddathlu Saturnalia! Dewch i weld sut mae eich traddodiadau ganol gaeaf yn cymharu â thraddodiadau’r Rhufeinwyr oedd yn dathlu bron i 2,000 o flynyddoedd yn ôl.
Rhowch wybod i ni wrth archebu os oes gennych chi ddisgyblion a allai fod yn sensitif i’r profiadau hyn, ac fe wnawn ein gorau i wneud i bawb deimlo’n gyfforddus!
Cwricwlwm i Gymru: Dyniaethau
Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth, ac yn cael eu gweld, eu dehongli a'u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd.
Oed: 8-11
Amcanion dysgu:
Gweithdy Satwrnalia
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3546 neu e-bostiwch learning.romans@museumwales.ac.uk